Cylchgrawn lliwgar, 72 tudalen, gan ferched am ferched Cymru. Mae'n llawn erthyglau ar iechyd, ffasiwn, teithio, bwyd, materion cyfoes, steilio cartref a llawer mwy!
Golygyddol
Cara
Gwneud y pethau bychain • Mae Cara wedi gofyn i rai o’r cyfranwyr rannu rhywbeth bach i wneud 2021 yn flwyddyn well.
Lliwiau 2021 • Y lliwiau arbennig am y flwyddyn 2021 gan Pantone yw ‘Illuminating’ – sef melyn llachar – ac ‘Ultimate Gray’ – lliw llwyd cynnes sy’n cydweddu â nifer fawr o liwiau eraill. Mae’r ddau liw gyda’i gilydd yn cynrychioli undod, sefydlogrwydd a gobaith. Ac mae angen hynny arnon ni eleni, o bob blwyddyn.
Colli ffrind
Lliw glas Groeg • Mae MENNA MICHOUDIS wedi ymgartrefu ar ynys Skiathos, yng Ngwlad Groeg. Gwyn ei byd!
Mabwysiadu’n ‘agor byd o gariad • Er gwaetha’r pandemig, y cyfnod clo a’r cyfyngiadau teithio, mae mabwysiadu yn broses sy’n dal i fynd rhagddi i nifer o deuluoedd. LLINOS DAFYDD sydd wedi bod yn ymchwilio.
Cegin newydd ar gyllideb dynn • Mae RHIANNON MAIR newydd adnewyddu ei chegin ac yn rhannu ei chyngor gyda Cara.
Dau artist, dwy ffrind • Mae ANNIE SUGANAMI a SEREN MORGAN JONES yn fam a merch a’r ddwy yn artistiaid llwyddiannus – dyma eu hanes nhw.
Hawlio’n pleidlais yn hyderus • Mae’r sylwebydd gwleidyddol MARED GWYN yn bwrw golwg ar etholiad y Senedd ym mis Mai.
Ffeithiau
Senedd Ieuenctid Cymru
DEWIS YNYS-U! • Gyda’r holl hunanynysu dros y flwyddyn ddiwethaf, mae MARED GRUFFYDD wedi siarad â rhai sydd wedi dewis newid eu ffordd o fyw ar ynysoedd diarffordd.
Dysgu byw yn ‘fwy’ gyda llai • MEDI JONES-JACKSON sy’n sôn am ddigwyddiad wnaeth drawsnewid y ffordd roedd hi’n edrych ar fywyd.
Byw gyda colitis: y da a’r drwg • Mae NIA PURSLOW yn dewis edrych ar ochr ddisglair bywyd, er ei bod yn byw gyda phoen cyson y cyflwr colitis wlserol.
Dyma rai o ddarllenwyr Cara yn rhannu eu profiadau o Crohn’s a colitis
Symud y corff a thawelu’r meddwl • Mae’r ddwy chwaer, Rhodd a Gwenith, yn rhannu ymarferion ar gyfer y corff a’r meddwl.
Dillad i godi gwên • Mae HELEN ANGHARAD HUMPHREYS wedi bod yn edrych ar y dillad cyfforddus sy’n dod â gwên yn ystod cyfnod digon diflas.
Tŷ Newydd, Llanystumdwy • Tŷ Lloyd George ac encil i lenorion sydd dan sylw gan EFA LOIS.
Cael amser i greu • Mae jyglo bywyd teuluol a bod yn greadigol wedi bod yn anodd i ELIN VAUGHAN CROWLEY. SARA GIBSON sydd wedi bod yn ei holi am y profiad.
Croeso i’r Casa! • Ar nosweithiau Gwener dros y misoedd diwethaf, a’r tai bwyta wedi cau, mae RHIAN CADWALADR wedi bod yn coginio pryd tri chwrs gan gymryd arni ei bod mewn bwyty – Casa Cadwaladr!
Taith trwy fywyd Jan Morris • Yn ddiweddar bu farw JAN MORRIS, un o lenorion gorau a mwyaf poblogaidd Prydain.
Gwyneth Keyworth
Teithio gyda’n meddyliau • Mae SOPHIE BAGGOTT wedi cyflawni sialens bersonol yn ystod y pandemig. Mae wedi anfon yr erthygl hon am ei harferion darllen o ben draw’r byd.
Clwb Llyfrau Cara • Blwyddyn newydd, a menter newydd i Cara eleni, sef Clwb Llyfrau Cara.
Ysgwyd y ddinas i’w sail • NADINE KURTON, cynhyrchydd y rhaglen ddogfen Terfysg yn y Bae gyda Sean Fletcher, sy’n adrodd hanes Terfysgoedd Hil Caerdydd, 1919.
Syllu ar y Sêr • Ar 21 Mawrth mae’r haul yn symud i arwydd yr Hwrdd gan ddechrau blwyddyn astrolegol newydd. Yn 2020 fe ddaeth â dryswch, afiechyd a gofid Covid yn ei sgil. Yn 2021 mae’r planedau Mawrth a Sadwrn mewn safle ffafriol mewn perthynas â’i gilydd ac felly’n addo dyddiau llawer gwell.
Byrstio’r swigen • Helyntion merch sengl yn y ddinas fawr.
Cara • Cylchgrawn i ferched. Gan ferched. Am ferched.