Cylchgrawn lliwgar, 72 tudalen, gan ferched am ferched Cymru. Mae'n llawn erthyglau ar iechyd, ffasiwn, teithio, bwyd, materion cyfoes, steilio cartref a llawer mwy!
Golygyddol
Tabŵb bŵbs
Ffastio: gwyrth ynta ffad arall? • Mae SIÂN WILLIAMS, mentor 1:1 i ferched, yn rhannu ei meddyliau am ymprydio gyda darllenwyr Cara.
Menyw, bywyd, rhyddid • Mae ELIN PARISA FOULADI yn gantores broffesiynol, a’i theulu’n dod o Gymru ac Iran. Cafodd sgwrs â Cara am ei bywyd a’i breuddwydion.
BYD BETHAN • ADFER ADEILADAU O BWYS
LAURA ASHLEY ac eraill • 70 mlynedd yn ôl dechreuodd Laura Ashley ei chwmni ffasiwn. HELEN ANGHARAD HUMPHREYS sy’n edrych yn ôl ar y brand eiconig.
Blancot • Mae CATHERINE DAVIES yn creu cotiau ac eitemau eraill o hen garthenni Cymreig.
Colur i’r gaeaf • Mae SARAH ASTLEY-HUGHES yn gweithio yn y byd ffilm a theledu, ac mae’n rhannu ei chynghorion am golur y gaeaf gyda Cara.
Casa Dolig! • Mae RHIAN CADWALADR newydd gyhoeddi llyfr ryseitiau Nadolig, Casa Dolig, ac yma mae’n rhannu rhai o’i hoff bethau i’w pobi dros yr ŵyl.
Lwli Mabi tlws • Dyma ddechrau cyfres o erthyglau gan NIA JENKINS, o fusnes Lwli Mabi, yn dangos sut i uwchgylchu dodrefn. Yma, mae hi’n esbonio sut mae’n mynd ati i adnewyddu hen gwpwrdd.
Gweld y gola • Cwmni mam a mab yw Gola ac mae SARA GIBSON wedi bod yn olrhain yr hanes.
BRANWEN: DADENI
Y FRWYDR: STORI ANABLEDD • Fel rhan o gyfres ddogfen newydd am hanes anabledd yng Nghymru, cafodd photoshoot ecsgliwsif ei drefnu ar gyfer cylchgrawn Cara.
Bethan Ellis Owen
Nadolig yn Norwy • Mae ANN LORRAINE THOMAS ENGEBØ wedi ymgartrefu mewn tref fach i’r gogledd o Bergen, Norwy. Cafodd Cara sgwrs â hi.
48 awr yn Bergen • Y ddinas rhwng saith mynydd
Planhigion fel anrhegion • Mewn cyfres o erthyglau garddio, mae NAOMI SAUNDERS yn dechrau drwy sôn am blanhigion tŷ.
Addysgu am y menopos • ELIN BARTLETT, un o sylfaenwyr y podlediad iechyd menywod Paid Ymddiheuro, sy’n galw am fwy o addysg ynglŷn â newid sy’n effeithio ar bawb.
“Gewch chi drio eto…” • Trafod profiadau dwys o golli baban mae cyfrol RHIANNON HELEDD WILLIAMS
Crugiau Lodge a bythynnod clwm • Y tro hwn, mae EFA LOIS yn edrych ar dai gweithwyr y boneddigion.
Madonna mia, dwi mor lwcus! • Mae Cara wedi bod yn siarad â FRANCESCA SCIARRILLO, sy’n gweithio yn y byd cyhoeddi Cymraeg, am ei thaith yn dysgu’r iaith.
CYMRAEG I BLANT Y BYD! • Menter newydd gan SIONED REES-JONES yw Ysgol Sadwrn. Dyma’r hanes.
MARATHON, BOLAN AC YMA O HYD • CARYL BRYN, un o ohebwyr Heno a Prynhawn Da, sy’n disgrifio rhai o’i hoff straeon diweddar.
Celf CASW • Mae MORFUDD BEVAN, Curadur Celf Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn sôn am baentiadau artistiaid benywaidd o fri sydd i’w gweld yno.
Syllu ar y Sêr
Anrhegion i bawb • Eisiau syniadau am anrhegion gwreiddiol gan gwmnïau o Gymru? Dyma eich canllaw chi ar gyfer eleni!
Cara • Cylchgrawn i fenywod. Gan fenywod. Am fenywod.